Cymunedau am Waith+
A ydych yn 16+ mlwydd oed ac eisiau gwella eich rhagolygon am swydd?
Mae Tîm Adfywio Cyngor Sir Powys yn cyflwyno prosiect “Cymunedau dros Waith+” gyda’r nod o gael pobl Powys yn ôl i mewn i waith a gwella eu rhagolygon am gyflogaeth. Mae mentoriaid yn gweithio ym mhob cwr o Bowys gan ddarparu cefnogaeth 1-1 i unrhyw un dros 16 mlwydd oed.
Gallant ddarparu cefnogaeth gyda:
-
Sgiliau cyflogadwyedd, gan gynnwys help gydag ysgrifennu eich CV, ceisiadau am swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliadau
-
Meithrin hyder
-
Dod o hyd i leoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
-
Dod o hyd i gyfleoedd gwaith addas
-
Cyllid ar gyfer hyfforddiant ar gyfer cymwysterau penodol fel y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS), Hylendid Bwyd, Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA)
Pwy allwn ni ei gefnogi? Unrhyw un sy'n:
-
Byw ym Mhowys dros 16 oed
-
Unigolion sydd wedi'u cofrestru'n ddi-waith neu'n economaidd anweithgar
-
Mewn "tlodi mewn gwaith" (mewn swydd(i) sgiliau isel ar gyflog isel a/neu oriau cyfyngedig o waith)
Sut y gallwch chi gysylltu?
Mentor Gogledd Powys - Matt Jones = 07976 864528
Mentor Canol a De Powys - Carol Judd = 07976 864529
E-bost: jobsupport@powys.gov.uk
Facebook: Communities for Work Powys
Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru.