Cyfle gwych ar gyfer eich busnes
Dewch draw i’ch digwyddiad agosaf a chwrdd â pherchnogion busnes eraill mewn lleoliad cyfeillgar ac anffurfiol. Dewch i greu cysylltiadau, rhannu gwybodaeth a dysgu o brofiad eraill.
Trefnir y sesiynau gan Dîm Adfywio Cyngor Sir Powys ac mae yna siaradwyr yn y digwyddiadau i’ch hysbysu am y datblygiadau a chyfleoedd diweddaraf ar gyfer y dyfodol. Gallwch ddarganfod yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal a dweud eich dweud. Bydd hefyd ystod o asiantaethau ar gael i gynnig cyngor ac arbenigedd am ddim i helpu eich busnes. Os ydych chi am glywed y diweddaraf cofrestrwch nawr gyda Tyfu ym Mhowys (Am ddim).
Derbyn y newyddion diweddaraf am gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau Powys. Gallwch gofrestru i dderbyn y Newyddion Digwyddiadau Busnes misol am ddim, neu ein dilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol trwy Facebook, Twitter a Youtube. Mae hyd yn oed cyfle i hyrwyddo eich busnes am ddim trwy Gyfeiriadur Busnesau Lleol Powys (dewisol).
Sut i gysylltu â ni/ For further information please email: regeneration@powys.go.uk