top of page

Dirprwyaeth Masnach Tyfu Canolbarth Cymru - Y Senedd, Caerdydd
31 Ionawr 2019 10:00am – 3:00pm

Dirprwyaeth Masnach Tyfu Canolbarth Cymru 

GMW Logo RGB 2018_landscape.jpg
Senedd -PowysCC.jpg

Ar 31 Ionawr 2019 ymwelodd Arweinwyr Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion â’r Senedd fel rhan o Ddirprwyaeth Fasnach Tyfu Canolbarth Cymru. Noddwyd y digwyddiad gan Aelodau’r Cynulliad Canolbarth Cymru gan gynnwys
Russell George, Kirsty Williams, ac Elin Jones.


Prif nod y digwyddiad oedd codi ymwybyddiaeth o’r Canolbarth fel rhanbarth. Hefyd, i gefnogi menter Llywodraeth Cymru i ddatblygu Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru. Nod arall oedd cefnogi’r fframwaith i weithredu i dyfu cynhyrchiant, arloesi a
swyddi ar draws yr ardal. Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddatgan yr angen am Fargen Twf yn y rhanbarth a hyrwyddo’i uchelgeisiau ehangach.


Rhoddodd y digwyddiad le amlwg i’r hyn sy’n unigryw i Ganolbarth Cymru ac roedd yn cynnwys arddangosfa o ddiwydiannau ar draws y ddwy sir. Dangosodd bod cefnogaeth eang i ddatblygu ffyniant ymysg ein busnesau a’r angen am ddatblygiad
economaidd sylweddol. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i fusnesau rwydweithio ac ymgysylltu â’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar yr ardal.

Yn ystod amser cinio anerchodd Aelodau’r Cynulliad ac Arweinwyr y Cyngor y digwyddiad. Agorodd Russell George, Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn y trafodaethau gan groesawu’r ddirprwyaeth fasnach. Wedyn cafwyd areithiau gan Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn. 

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Rosemarie Harris bwysigrwydd cadw pobl ifanc yn y rhanbarth a’r angen am dai a swyddi o ansawdd sydd o fewn eu cyrraedd. Dywedodd:

“Rhaid i ni gynnig medrau o’r radd flaenaf sy’n cwrdd ag anghenion cyflogwyr. Rhaid i’r rhanbarth fod yn arloesol yn y dyfodol a gweithio mewn ffordd drawsnewidiol. Gyda Bargen Twf gallwn fynd ati i yrru’r economi yn ei blaen.”

Pwysleisiodd y Cynghorydd Harris pe bai’r rhanbarth y cael Bargen Twf y byddai mewn lle da strategol i gysylltu â mannau economaidd De a Gogledd Cymru. Hefyd prif ardaloedd diwydiannol yn y Gororau, Canolbarth Lloegr a Gogledd Orllewin
Lloegr.

Siaradodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn gan dynnu sylw at yr heriau fydd yn y dyfodol ar gyfer y Fargen Twf. Soniodd yn arbennig am ddwyn cam cyntaf achos busnes y rhanbarth ymlaen i’w gyflwyno ym mis Hydref 2019. Dywedodd:

“Mae angen partneriaid arnom i ddod â’r achos busnes ynghyd. Mae gennym uchelgais uchel.”

Soniodd y Cynghorydd ap Gwynn am gryfderau penodol y rhanbarth lle ceir diwydiant amaeth sefydlog, diwydiannau bwyd, twristiaeth a phrifysgolion. Ond ychwanegodd y bydd arloesi a thechnoleg yn bwysig dros ben i’r rhanbarth gyda
chyfleusterau ymchwil yn cael eu datblygu ym Mhrifysgol Aberystwyth a datblygiad ymchwil sbectrwm radio. 

Yn dilyn areithiau’r Arweinwyr anerchodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates AC y digwyddiad. Pwysleisiodd y bydd Bargen Twf yn hynod o bwysig i economi’r Canolbarth. Galwodd ar bawb i gyfrannu at ddatblygiad y fargen. Pwysleisiodd yr angen i’r fargen fod yn drawsnewidiol ar gyfer y rhanbarth. ‘Dylai fod yn uchelgeisiol gyda’r sector preifat yn ei harwain. Mae angen i’r fargen fod yn rhywbeth y mae modd ei chyflawni,’ meddai.

Y siaradwraig nesaf oedd Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones a roddodd anerchiad i gloi’r trafodaethau. Diolchodd i bawb a gefnogodd y digwyddiad a Phartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru. 

Roedd y digwyddiad hefyd yn cael ei gefnogi gan fusnesau sydd â’u prif ganolfannau yn y Canolbarth gan gynnwys: Banc Datblygu Cymru, Busnes Cymru, Croeso Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru a Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru. 

Sut i gysylltu â ni/ For further information please email: regeneration@powys.go.uk

bottom of page