Dewch draw i’ch digwyddiad agosaf a chwrdd â pherchnogion busnes eraill mewn lleoliad cyfeillgar ac anffurfiol. Dewch i greu cysylltiadau, rhannu gwybodaeth a dysgu o brofiad eraill.
Bydd y sesiwn yn hysbysu sut y bydd Cyngor Sir Powys yn cynorthwyo busnesau lleol trwy Raglen Economi Gweledigaeth 2025 a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Hefyd bydd Busnes Cymru, Cyflymu Cymru i Fusnesau, Banc Datblygu Cymru a nifer o sefydliadau cymorth busnes, wrth law i gynnig help a chyngor am ddim.
Bydd pawb yn derbyn llyfryn digwyddiad sy’n rhestru’r sefydliadau cymorth ym mhob digwyddiad. Wrth archebu i fynd i ddigwyddiad, bydd gwesteion hefyd yn gallu “optio i mewn” i gynnwys eu manylion eu hunain yn y llyfryn i helpu gyda chyfleoedd rhwydweithio.
Fformat Digwyddiad:
-
Croeso a rhwydweithio anffurfiol dros frecwast/ Bwffe
-
Prif Siaradwyr
-
Rhwydweithio anffurfiol gyda thé a choffi
Dyddiadau a lleoliadau dros dro* wedi’u cyhoeddi ar gyfer cyfres y digwyddiadau hydref 2018:
Sut i gysylltu â ni: regeneration@powys.gov.uk